CROESO I YSGOL NANTGAREDIG
Mae Ysgol Gymunedol Nantgaredig yn lle hapus. Mae’r athrawon a’r staff cynnal yn gweithio’n ddiflino ac ag arddeliad. Mae ganddynt berthynas dda â’r plant ac ymfalchïwn yn yr addysg eang, gytbwys a llawn a ddarparwn, safonau uchel yr addysg a’r dysgu a’r berthynas effeithiol sydd rhwng yr ysgol a’r cartref, a’r gymuned leol.
Mae’r Gymraeg yn cael lle amlwg ymhob agwedd o fywyd yr ysgol o ran iaith gwersi, iaith anffurfiol cymuned yr ysgol a rhown sylw i ddiwylliant gwerthfawr ein gwlad fel rhan annatod o gwricwlwm yr ysgol.
Rydym yn gwerthfawrogi ein disgyblion ac yn credu y dylai eu hamser yn yr ysgol fod yn werthfawr ac yn foddhaus.
Gallwch lawrlwytho llawlyfr yr ysgol o adran 'Dogfennau' y wefan.
Ein nod yw sicrhau bod plant Ysgol Nantgaredig yn ddiogel ac yn hapus er mwyn dysgu.
Gweledigaeth y disgyblion: Dysgu heddiw ar gyfer gwell yfory
Gweledigaeth y Siarter Iaith:
Cadw'r Gymraeg yn fyw
Dogfennau Diogelu Ysgol Nantgaredig yn cynnwys gwybodaeth am Operation Encompass. Ymgyrch Cwmpasu yw'r broses o adrodd yn gynnar wrth ysgolion bod plentyn neu berson ifanc wedi bod yn agored i gam-drin domestig. |
Cliciwch ar y TAB Diogelu i weld y polisîau perthnasol gan gynnwys Diogelu Plant |
Gwybodaeth bwysig am drefniadau'r ysgol (Tymor y gwanwyn 2022) |
Dechrau hanner tymor nesaf yr haf - 6.6.22 Diwrnod HMS nesaf - 13.6.22 Gallwch ddarllen adroddiad arolygiad Estyn yr ysgol yn adran 'dogfennau' neu ar wefan Estyn Newidiadau i drefniadau anghenion dysgu ychwanegol I gael gwybodaeth am newidiadau i’r bil Anghenion Dysgu Ychwanegol o fis Ionawr 2022, cliciwch ar y tab ADY am ddolenni perthnasol. Gallwch hefyd gyfeirio at ddogfen fanwl am y broses o newid yn yr adran polisïau o dan Dogfennau. Cysylltwch â’r ysgol os hoffech ofyn cwestiwn ynglŷn ag anghenion dysgu ychwanegol. Diweddariad Cwricwlwm i Gymru - Ionawr 2022 Rydw i wedi uwchlwytho cyflwyniad i chi am ddatblygiadau diweddaraf Cwricwlwm i Gymru yn Ysgol Nantgaredig yn yr adran CIG.
Edrychwn ymlaen i gyfarfod dymhorol yn anffurfiol er mwyn cefnogi'n gilydd i ddeall y newidiadau sydd ar y gweill wrth i ni i baratoi i gyflwyno'r cwricwlwm newydd yn Ysgol Nantgaredig. Bydd y cyfarfod nesaf yn dilyn y gwyliau Pasg.
Diolch,
Mr Griffiths
Llawrlwythwch Ourschoolsapp ar eich dyfeisiau Android neu Apple a dewiswch gôd post yr ysgol: SA32 7LG i dderbyn diweddariadau a newyddion am ddigwyddiadau yn yr ysgol. Mae adroddiad blynyddol y llywodraethwyr at y rhieni ar gyfer 2020-2021 ar gael yn adran dogfennau y wefan at eich sylw. Gallwch ddarllen yr adroddiad yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Pennaeth: steffan.griffiths@nantgaredig.ysgolccc.cymru Ffôn: 01267 290444 |
Linc i ddyddiadau tymor Sir Gaerfyrddin: http://www.carmarthenshire.gov.wales/home/residents/education-schools/school-term-dates.aspx#.WXnCLdPyuuU
|
Gweler y linc isod ar gyfer trefniadau cofrestru plant i'r ysgol ar wefan Cyngor Sir Gaerfyrddin. Dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau nesaf yw Gorffennaf 31ain 2022. http://www.sirgar.llyw.cymru/derbyniadauysgol
|